Dibwyllo

Dibwyllo
Mathcam-drin seicolegol, psychological manipulation, narcissistic abuse Edit this on Wikidata

Mae dibwyllo (a elwir hefyd yn gasleitio) yn ymadrodd llafar a ddiffinnir yn fras fel twyllo rhwyun er mwyn gwneud iddynt gwestiynu eu cof eu hunain.[1] Mae'r term Saesneg (gaslighting) yn deillio o deitl y ffilm Americanaidd Gaslight o 1944, er na ddefnyddiwyd y term yn eang yn Saesneg nac yn Gymraeg tan ganol y 2010au.[2]

Gellir defnyddio'r term hefyd i ddisgrifio person (sef "dibwyllwr" neu "gasleitiwr") sy'n cyflwyno gwybodaeth ffug i rywun, yn aml fel rhan o ymgyrch, i wneud iddynt "amau eu cof eu hunain o ddigwyddiadau ac i amau eu pwyll".[1] Yn aml, mae hyn er mantais i'r dibwyllwr ei hun, ond nid yw dibwyllo yn fwriadol bob tro.[3]

Charles Boyer, Ingrid Bergman, a Joseph Cotten yn y ffilm Gaslight (1944)
  1. 1.0 1.1 "Gaslighting". BydTermCymru. Llywodraeth Cymru. 21 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 14 Hydref 2022.
  2. Yagoda, Ben (12 Ionawr 2017). "How Old Is 'Gaslighting'?". The Chronicle of Higher Education (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Tachwedd 2022.
  3. DiGiulio, Sarah. "What is gaslighting? And how do you know if it's happening to you?". NBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 16 Tachwedd 2022.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search